Odyn galch Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:06, 27 Chwefror 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Odyn Galch Trefor yn weithredol tua 1900 pan enwyd yr odyn ar fap Ordnans; roedd yr un adeilad yno ym 1888 ond heb ei enwi ar y map hwnnw[1]. Gan fod odynau'n adeiladau pur nodedig o ran siâp a dyluniad, gellid bod yn weddol siŵr, felly, ei bod yn weithredol erbyn y dyddiad hwnnw. Mae'n bosibl y codwyd yr odyn pan osodwyd cangen y pentref o dramffordd y chwarel tua 1870.[2]

Safai mewn man a elwid Y Berllan yn wreiddiol ond a gafodd ei ail-enwi'n "Lime Street", sef dros yr afon ym mhen isaf Stryd Farren (neu Ffordd yr Eifl wedi hynny), ym mhentref Trefor lle roedd cangen o dramffordd y chwarel yn gorffen.[3] Dichon yn wir mai'r dramffordd a roddodd fodolaeth i'r odyn yn y lle penodol hwnnw, gan fod modd cludo'r galchfaen i'w llosgi yn syth o'r llongau - a byddai calch (ynghyd â glo) yn ddefnyddiol fel llwyth mewn llongau a fyddai wedi dod yn wag fel arall i nôl y wenithfaen. Ni pharhaodd yn hir fodd bynnag. Erbyn 1914, roedd yr odyn wedi ei dymchwel a chodwyd rhes o dai ar y safle, sydd erbyn heddiw yn 12-16 Ffordd yr Eifl.[4]

Gan gofio bod cryn adeiladu i ymestyn pentref Trefor ar yr adeg pan oedd yr odyn ar waith, a bod calch yn cael ei ddefnyddio i wneud sment ac i blastro, ac i wyngalchu adeiladau, mae'n debyg bod odyn Trefor yn gymaint o ddefnydd i'r gwaith a'r pentrefwyr ag i'r ffermwyr lleol a ddefnyddiai galch fel gwrtaith.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 6" i'r filltir 1888
  2. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.268-71
  3. Map Ordnans 25" i'r filltir, 1899
  4. Map Ordnans 6" i'r filltir, 1914; Geriant Jones a Dafydd Williams, Trefor (Clynnog Fawr, 2006), tt.44-5