Odyn galch Trefor
Roedd Odyn Galch Trefor yn weithredol tua 1900 pen enwyd yr odyn ar fap Ordnans; roedd yr un adeilad yno ym 1888 ond heb ei enwi ar y map honno[1]. Gan fod odynau'n adeiladau bur nodedig o ran siâp a dyluniad, gellid fod yn weddol siŵr felly ei fod yn weithredol erbyn y dyddiad hwnnw. Mae'n bosibl y codwyd yr odyn ar adeg gosod cangen y pentref o dramffordd y chwarel tua 1870.[2]
Safai dros yr afon ym mhen eithaf Stryd Farren, ym mhentref Trefor lle roedd cangen o dramffordd y chwarel yn gorffen.[3] Dichon yn wir mae'r dramffordd a roddodd fodolaeth i'r odyn yn y lle penodol hwnnw, gan fod modd cludo'r galchfaen i'w llosgi yn syth o'r llong - a byddai calch (ynghyd â glo) yn ddefnyddiol fel llwyth mewn llongau a fyddai wedi dod yn wag fel arall i nôl y wenithfaen. Ni pharhaodd yn hir fodd bynnag. Erbyn 1914, roedd yr odyn wedi ei dymchwel a chodwyd rhes o dai ar y safle.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma