Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:14, 4 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Pentre Trefor a'r Gurnau


Mae pentref Trefor yn bentref chwarelyddol yng nghymuned Llanaelhaearn. Saif ar lan y môr, ac allforiwyd llawer o wenithfaen o'r harbwr. Fe'i gynlluniwyd fel Pentref model diwydiannol.

Hanes yr Ardal

Doedd dim pentref per se cyn dyfodiad y Chwarel yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tai gwasgaredig, ffermydd, oedd yn ardal yr Hendra, gan gynnwys y plasty hynafol Elernion.

Cafodd y pentref ei enwi gan John Hutton ar ôl stiward y chwarel, Trefor Jones, gan berchnogion y chwarel ym 1856 fel Trefor.

Ym mis Ebrill 1856 ymddangosodd yr Adroddiad hwn yn sôn yn bur fanwl am y diwrnod y sefydlwyd pentref Trefor. Mae'n fwy na thebyg mai Eben Fardd a'i sgwennodd.

GOSODIAD CARREG SYLFAEN PENTREF NEWYDD I'R GWEITHWYR YN CHWARELAU YR EIFL YN LLANAELHAEARN, SIR GAERNARFON 12 EBRILL 1856
Dydd Sadwrn, y 12fed o'r mis hwn, cyfarfu Te Parti yn y lle uchod ar achlysur gosod carreg sylfaen rhes o dai i'r gweithwyr. Yr oedd un o longau y Cwmpeini ym mhorth Llanaelhaearn yn chwifio eu banerau yn nwyfus, a chyffelyb arwydd o lawenydd yn chwarae yn yr awel uwchben Swyddfa y Gwaith. Tua tri o'r gloch prydnawn, ymgynullodd y gweithwyr, dan arweiniad J. Hutton, Ysw., un o'r perchenogion, a Mr. Trefor Jones, goruchwyliwr, i'r tir adeiladu. Dechreuwyd trwy weddi gan Eben Fardd ar ddymuniad Mr. Hutton. Wedi canu hymn, cyfarchodd Mr. Hutton y gweithwyr mewn araith huawdl a thirion. Drwg gennym nas gallwn ond cyflwyno amlinellaid amherffaith oddi ar gof ohoni. Medd efe: 
'Annwyl ffrindiau. Yr wyf yn teimlo yn falch i gyfarfod â chwi ar yr achlysur presennol; yr ydym yn rhoddi ein bryd bob amser ar wneud eich amgylchiadau chwi yn gysurus; buom bob amser yn brydlon gyda'n taliadau, a benthyciasom arian ymlaen weithiau mewn amgylchiadau o angen neilltuol. Gwnaethom ein gorau yn wastad i symud ymaith bob achos cwyno. Rŵan rydym wedi penderfynu adeiladu ychydig o dai i chwi, a siop, yn y lle hwn; gan fod Caernarfon a Phwllheli mewn pellter anghyfleus i chwi gael eich angenrheidiau, gwerthir blawd, mân nwyddau, a glo, yma am y prisiau isaf y gellir.  

'Ond yr ydym yn ewyllysio i chwi ddeall na throi byth at yr arfer o gyfnewidiaeth eiddo am waith - telir i'r gweithwyr eu cyflogau yn arian, a byddant at eu cyflawn ryddid i fyned i leoedd eraill i brynu, heb wg ar ael neb ohonom ni. Nid yw hyn ond dechreuad bychan; yr ydym yn disgwyl y daw y lle hwn yn fuan yn bentref, ie, yn dref efallai, lle y codir lluaws o adeiladau cyhoeddus y byddo angen y preswylwyr yn galw amdanynt, megis siopau, banciau, postswyddfa, ysgoldy a llyfrgell etch. Bwriadwn i'n tai cyntaf fod at wasanaeth ein gweithwyr priod, hynaf; yn araf deg, amcanwn adeiladu lletyau i'n gweithwyr sengl. 

'Ewyllysiwn ddwyn ar gof i chwi eich dyletswyddau. Y mae gennym ninnau y goruchwylwyr ein dyletswyddau ac yr ydym bob amser yn meddwl amdanynt, ac yn ymdrechu eu cyflawni; ond dylai y gweithwyr hefyd ystyried y rhwymedigaethau y maent danynt i'r meistriaid, a golygu eu hunain, i ryw fesur, fel 'partners' yn y gwaith:
1. Dylech wneud eich gwaith yn dda.
2. Dylech fodloni i'ch cyflogau.
3. Dylech weithio 'at orders'; nis gellir cael yr orders mwyaf manteisiol bob amser, ond rhaid i ni foddhau ein cwsmeriaid a pharatoi iddynt y peth a alwont amdano.'

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma