William Williams (Eos Graianog)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:19, 21 Ionawr 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saer maen oedd William Williams a oedd yn byw yn ystod ail hanner y 19g., ac a weithiai fel arfer fel waliwr ar ffermydd. Roedd wedi codi bwthyn llofft a siambr a elwid yn Glan Don, ar ymyl mawnog Graeanog. Roedd yn adnabyddus yn yr ardal oherwydd ei dalentau cerddorol, ac yn arbennig am ei allu fel cyfansoddwr. Arferai ddefnyddio'r llysenw "Eos Graianog". Ym 1869 fe gyhoeddodd gyfrol fechan o anthemau a thonau yr oedd o wed'u cyfansoddi, dan y teitl Blaenffrwyth Dwyfach, cyfrol a ddisgrifiwyd gan Nan Ellis fel un llawn cerddoriaeth ddigon syml ond eto'n dderbyniol. Bu sawl darn o'i eiddo'n llwyddiannus mewn cystadlaethau, a Ieuan Gwyllt ymysg y beirniaid a hoffai ei waith.

Arferai ganu mewn triawd i ddiddanu cynulleidfaoedd lleol, yn arbennig yn ystod y 1870au a'r 1880au cynnar.[1] Aelodau eraill y triawd oedd Margery ei wraig a William Brymer, a oedd yn cadw siop yng Ngarndolbenmaen. Prifathro'r Garn, yr Athro (wedyn) J. Lloyd Williams oedd yn trosi caneuon ysgafn iddynt ganu. Hen Nodiant yn hytrach na'r sol-ffa (oedd yn bur newydd y pryd hynny) oedd dewis yr Eos ar gyfer cyfansoddi.

Ceir hanes trist am ei fywyd priodasol yn yr Herald Cymraeg, pan ddaeth ef a Margery achosion yn erbyn ei gilydd. Roedd yr Eos wedi meddwi'n rhacs, a cheisiodd dagu Margery (a oedd yn ôl yr hanes yn ddynes bur wyllt); ei hymateb hi (yn ddigon dealladwy dan yr amodau) oedd brathu ei fysedd nes iddi dynnu gwaed.[2]

Cyfeiriadau

  1. Hanesion mewn sawl papur, a adalwyd trwy Fynegai Papurau Newydd Cymru LlGC
  2. Dewi Williams, Yr Hern Gerddor o fro Bryn Terfel, Y Casglwr, Rhif 45, t.19 [1]