Brwydr Ysgol Llanaelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:07, 13 Ionawr 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ysgol Gynradd Llanaelhaearn wedi cau ers mis Medi 2020, ac mae plant y pentref bellach yn mynychu Ysgol Bro Plenydd (Y Ffôr, Llŷn) neu Ysgol Chwilog (Eifionydd). Gweddol ddi-ffrwt fu'r frwydr olaf i ddiogelu'r ysgol, ond bu brwydr sylweddol yn y cyfnod 1970-2 i'w chadw'n agored. Erbyn 1970 roedd nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi gostwng i 27, ac yn dilyn argymhellion Adroddiad Gittins dechreuodd Adran Addysg Cyngor Sir Gwynedd feddwl am ei chau. (Roedd 17 o ysgolion drwy'r Sir dan fygythiad cyffelyb).