Atgofion W.W. Ross am Rostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:18, 15 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Isod gweler adysgrif o ddwy erthygl a ymddangosodd ym mhapur newydd Cymraeg yr Unol Daleithiau, sef Y Drych, a hynny yn ystod haf 1915. Yr awdur oedd William Watkin Ross (1867-1933), brodor (mae’n ymddangos) o Rostryfan a ymfudodd i America, a hynny o Lerpwl yn ystod haf 1901 gyda’i blant a’i wraig Laura.[1] Fe ymsefydlodd fel amaethwr yng nghymuned Holland Patent yn Nhalaith Efrog Newydd. Roedd o’n gerddor da ac yn gweithredu fel unawdydd yng nghyngherddau’r Cymry yn y Dalaith. Roedd hefyd yn arwain corau a chymanfaoedd. Bu iddo fo a’i wraig ymddeol tua diwedd 1917, gan symud i dref Rome, NY. Mae’n amlwg o’i ysgrifau ei fod yn Gymro rhugl a llengar.[2]

Mae peth dirgelwch ynglŷn â’i flynyddoedd cynnar. Roedd teulu gyda’r cyfenw Ross yn y cylch ynghanol y 19g., ond nid yw William W. Ross yn ymddangos yn y mynegeion. Mae awgrym yng Nghyfrifiad 1901, fodd bynnag ei fod wedi ei eni yn Llanllyfni Gwyddom ei fod wedi cyrraedd Llanbradach yn Ne Cymru gyda’i deulu erbyn 1894, ac yng Ngelligaer ar ddechrau 1901, lle roedd o’n gweithio fel adeiladydd. Priododd ddwywaith, a chafodd ei wraig gyntaf’ (Jane Ellen Jones) ac yntau bump o blant yn cynnwys Margaret (1894-1975). Bu i Jane Ellen farw ar ôl cyrraedd America ac ail-briododd William gyda Laura.[3]

Dylid nodi bod yr ysgrifau wedi eu golygu o ran y sillafu a rhai pwyntiau gramadegol er mwyn hwyluso eu darllen heddiw, ond mae’r cynnwys fel arall yn union fel y’i ceir yn Y Drych.

ATGOFION AM RHOSTRYFAN, G. C.

Gan W. W. Ross, Holland Patent, N. Y. 
Mae gweled enw ardal Rhostryfan wedi dwyn ar gof i mi amryw o hen gyfeillion diddorol yno. Richard Hughes, y crydd, gwr tawel, dyn yn barod i wneud unrhyw beth a allai i gynorthwyo eraill. Byddai ym mhob cyfarfod llenyddol yn y cylch ac yn gwasanaethu ynddynt. Diddorol iawn fyddai gwrando arno ef ac Edward Williams, Cae Ymryson, yn canu gyda'i gilydd; ac os byddai sôn fod E. Williams a Richard Hughes i ganu, byddai pawb yn gwybod eu bod am gael rhywbeth wrth eu bodd. Cofiwyf mewn un cyfarfod yn Ysgoldy'r Bwrdd, Rhostryfan, i'r ddau ganu "Dwr y Ffynnon Fechan" nes y bu bron i'r dyrfa dynnu'r adeilad i lawr wrth guro traed yn y llawr, a churo dwylaw. 'Roedd Richard Hughes yn faswr cryf iawn, ac yn fardd enwog dan yr enw "Rhisiart Goch o Wynedd". Dyma englynion a wnaeth i Tom D. Radcliffe (Tryfanydd) yn ei afiechyd pan yn dwyn allan lyfr o'r enw "Myfyrion yr Awen" yn y flwyddyn 1888:
Myfyrion awen ŷnt wenau - gwyneb
     Teg wanodd cystuddiau; 
  Tom sydd er cur, sur nesáu,
  Yn minio cain emynau. 
Oes diddan i Tryfanydd - oes oleu
     Is heulwen llawenydd; 
   Tirion ei fyfyrion fydd, 
   A'u rhin fel gwin rhoent gynnydd.
Owen Hughes, y crydd, brawd Richard Hughes, oedd ŵr eto y gellid ymddiried pob peth iddo, efe yn hen gymeriad pur. Byddai gwen ar ei wyneb bob amser, ni fyddai yn pasio neb ar y ffordd heb ei gyfarch yn y modd mwyaf boneddigaidd. Yr oedd yntau, fel ei frawd, yn gerddor ac yn fardd dan yr enw "Mona Ddu". Dyma englyn o'i eiddo i Tryfanydd ar yr un achlysur:
 Myfyrion mal hinion haf - agora 
     Bob blaguryn harddaf – 
  O naws bron, mae'n ernes braf 
  O wir gynnydd, dy fri a ganaf.
Byddai Owen a Richard Hughes pan yn canu gyda'r corau yn cael eu gosod ar y ffrynt, trwy fod eu lleisiau mor gryf a phur yn y bass. Yr oedd Owen Hughes yn siaradwr cyhoeddus da, a chlywais ei fod ef wedi ei ddewis yn un o'r siaradwyr yng Nghastell Caernarfon amser coroni Tywysog Cymru dair blynedd yn ôl, ond bu farw ychydig cyn hynny. Clywais iddo farw ar y fainc grydd yn y gweithdy. John Thomas, Penceunant, neu fel y gelwir ef, "Yr hen saer." Byddai pawb yn meddwl yn uchel iawn o'r hen saer, a chyfrifid ef yn un o'r rhai gorau am wneud trol a gwagen a hefyd am wneud eirch. Bu yn golofn gadarn iawn i'r achos M. C. yn Rhostryfan, ac yn arweinydd y gan am flynyddau. Anhawdd iawn oedd canfod un fuasai yn curo'r hen saer gyda chôr ar don gynulleidfaol. Llawer torch galed welais i yn cael eu tynnu rhwng yr hen saer a Henry Hughes, Tan Rallt, Nantlle, ond i'r hen saer y byddai'r fuddugoliaeth yn disgyn bron bob amser. Pan fyddai cystadleuaeth ar don gynulleidfaol, gwaith hawdd fyddai cael côr at ei gilydd os byddai'r hen saer yn ei arwain. Gwelodd lawer o orthrymderau, llawer o salwch yn y teulu, ond aeth drwyddynt yn dawel gan ddywedyd "Dy ewyllys Di a wneler." Humphrey Jones, neu fel y gelwir, "Wmffra deiliwr," hen lanc hynod yn ei ffordd. Yr oedd yn cadw siop fechan, ac yr wyf yn meddwl mai ei chadw hi yr oedd hefyd, oblegid anfynych iawn y gwelid neb yn y stôr. Yr oedd, yn flaenor gyda'r Annibynwyr ac yn bur gyson yn y cyfarfodydd; ond ni welid ef byth yn mynd i'r capel a'i wyneb yn lan, oblegid ni fyddai byth yn ymolchi. Byddai ei wyneb gan ddued a'r frân bron bob amser; byddai ar blant yr ardal ei ofn gan y byddai yn rhedeg ar eu holau gan alw "Tyrd yma i mi gael dy wasgu di," ond hwyl oedd hynny ganddo; feallai mai ychydig o gandi fyddai ganddo ar eu cyfer. Yr oedd wedi torri bedd iddo ei hun yn fynwent Moeltryfan, ac wedi rhoi cist arno ac wedi rhoi ei enw ar y gist, pob peth ond dydd ei farwolaeth. 'Rwyf yn cofio'r gist yn mynd i fyny drwy Rostryfan, a'r hen Wmffra deiliwr yn eistedd ar ei phen, a hyny flynyddau cyn ei farwolaeth. Dywedir hefyd fod ei arch yn y llofft am yn agos i dair blynedd. Robert Williams, Bryn Horeb, neu fel y galwent ef "Robin Williams Fawr." Dyn mawr, iach a chryf: byddai'n cael cyrsiau lled ddrwg weithiau, ac yn hawdd iawn ei ddigio. Pan oeddwn i yn gwasanaethu yn Siop Post Office, Rhostryfan, rwyf yn cofio i Robin Williams ddod yno i fy helpu hefo'r gwair, ac amser cinio galwyd arnom i gael bwyd, ac ar hanner bwyta dyma wraig y tŷ yn dweud wrtho, "Dowch, bytwch yn iawn, Robert Williams," ac meddai yntau, "O! mae yn dd-l o beth os na chaiff dyn lonydd i fwyta a digon o fwyd o'i flaen"; ac allan ag ef ac ni welsom ef mwy'r diwrnod hwnnw. Un flwyddyn yr wyf yn cofio iddo blannu tatws yn ei ardd, a phan oedd y tatws wedi tyfu tua 3 neu 4 modfedd, digwyddodd rhywun ei ddigio am rywbeth neu'i gilydd, ac aeth adref a dechreuodd godi'r tatws a'u lluchio i'r ffordd. Aeth R. Jones Hughes, y Post Office, ato gan dreio ei berswadio i beidio, a dywedodd wrtho, "Peidiwch â bod mor wirion Robert Williams, stopiwch; mae yn gywilydd i chwi." Ond bu rhaid i Mr Hughes ddianc am ei hoedl oddi yno neu dderbyn y rhaw o gwmpas ei ben. A chan ei fod yn ymffrostio yn ei nerth mi es innau yno, a gofynnais iddo, "Robert Williams, dowch i fy helpu i godi casgan oil, mi rydach chwi yn ddigon cryf." Cadwodd y rhaw ar unwaith a daeth hefo mi. Gwaeddwr heb ei ail oedd hefyd, byddai yn gwaeddi wrth ddod o'r chwarel bob nos yn agos i'r lle o'r enw Glanrafon Hen, a gellid ei glywed o Rostryfan, pellter o dri chwarter milltir. Llawer gwaith y cafodd ei anfon adref o Chwarel y Foel, am y byddai yn mynd wrth ben y twll ac yn gwaeddi "Fire" nerth esgyrn ei ben, ac yna yn chwerthin am ben y dynion yn rhedeg am eu heinioes gan feddwl fod y graig yn dod i lawr ar eu pennau. Cymeriad rhyfedd oedd Hugh Jones, Hugh Ffactri, fel y gelwir ef. Mae llawer o ddarllenwyr y "Drych" yn y wlad yma yn cofio'r hen Hugh Ffactri. Yr oedd gan Hugh frawd yn cadw ffactri yn Rhostryfan, a brawd arall yn cadw ffactri ym Mhont Rug, rhwng Caernarfon a Llanberis; byddai yn cerdded o Bont Rug bob yn ail ddiwrnod, ac o Bont Rug i Lanberis y diwrnod arall. Gwisgai am dano'r un peth yr haf a'r gaeaf, het fawr am ei ben (byddai hogiau sir Gaernarfon yn galw hetiau o'r fath yna yn "het sir Fôn”). Gwisgai got fawr yn yr haf fel yn y gaeaf, a honno’n wastad yn agored gan luchio ei freichiau fel dyn yn hau ceirch, a gwisgai glocsiau am ei draed. Gellid ei glywed yn dod o bellter o herwydd sŵn y clocsiau. Pan fyddai rhyw rai yn dod i'w gyfarfod edrychai dros y wal i'r cae, rhag iddo edrych yn eu gwyneb, ac os dywedent rywbeth wrtho edrychai arnynt a mellt yn ei lygaid. 'Rwyf yn cofio i mi ei gyfarfod un diwrnod poeth a dywedais wrtho, "Mae hi yn boeth iawn heddiw, Hugh Jones," ac edrychodd arnaf gan ddywedyd, "Os na chai lonydd i basio mi ro'i garreg trwy dy ben di." Cyfarfyddais â Hugh lawer gwaith wedi hynny, ond ddywedais i air byth wrtho. Yr oedd gan Hugh le cysegredig iawn yn ei olwg ei hun, sef No. 8, yng nghornel Coed Tryfan ar le glas. Byddai yn cerdded y number 8 wyth gwaith bob tro wrth basio. Mesurai y No. 8 tua 80 troedfedd o gylch. Nid wyf yn gwybod beth sydd wedi dod o'r No. 8 erbyn hyn, trwy fod yr hen Hugh wedi ei adael ers yn agos i ddwy flynedd.[4]

HEN GYMERIADAU RHOSTRYFAN, G. C.

Gan W. W. Ross, Holland Patent, N. Y. 
Ar ôl i'r ysgrif ddiweddaf dan y peniad uchod ymddangos yn y Drych, derbyniais lythyrau oddi wrth amryw yn datgan eu diolchgarwch am gael gair o atgofion am eu hen ardal enedigol. Gofynnai un o'r llythyrau pwy oedd Robert Williams, y sonnid amdano. "Robin William 'nawr" y gelwid ef, ac nid "Robin William fawr," fel y darllena yn yr ysgrif. Bu yn byw mewn tŷ o'r enw Pencader, ar dir John Jones y Caerwen. 
Richard Thomas, Bryn Llwyd. Cymeriad pur oedd ef ac wedi cadw aelwyd grefyddol a chysurus i'w deulu ar hyd ei oes, ac yn golofn gadarn i'r achos yng nghapel Horeb, ac yn flaenor. Efe hefyd oedd y cyhoeddwr. Ni fyddai wiw iddynt ysmygu ar y Sul o'i flaen. Na sefyllian o flaen drws y capel chwaith. Yr oedd yn eiddigeddus dros barchu'r Saboth, a gwnâi roi ei holl egni er cadw rheolau'r seithfed dydd. 
Tom D. Radcliffe (Tryfanydd), awdur "Myfyrion yr Awen." Gallaf ddweud fel y dywedant yn Neheudir Cymru. "Bachan piwr yw Tom." Llawer awr ddifyr dreuliais yng nghwmni'r bardd Tryfanydd. 'Rwyf yn cofio i mi a John Thomas, y crydd, gyfarfod â Tryfanydd ar y ffordd, a gofynnodd John Thomas iddo, a oedd yn gwella, a dyma'r ateb gafodd:
Yn wir yr wyf yn aros – beunydd 
    Dan boenau ers wythnos,
  Diodda wna i bob dydd a nos
  Yn y joint yma, John Thomas. 

Saer maen oedd yn ôl ei alwedigaeth, a chollodd ei iechyd tua 30 mlynedd yn ôl, ond bu yn bur llwyddiannus fel bardd wedi hyny. 
Richard Radcliffe, ei frawd. Dilynai yntau'r un alwedigaeth a'i frawd Tom, sef saer maen. Cerddor oedd Richard, ac yn ddyn da gyda phob achos, yn enwedig gyda dirwest. Yr oedd yn ddyn selog a gweithgar dros ddirwest. 
Thomas Humphrey, Tanyfron, a Thomas Humphrey, Shop Coed y Brain. Dau gefnder, ac yn ddynion y byddai pawb yn edrych i fyny arnynt. Yr oedd y cyntaf yn gerddor da; dynion tawel yn gallu cyd-fynd â phawb. 
R. Jones Hughes, Post Office. Yn yr ysgrif ddiweddaf a anfonais i'r "Drych, soniais am ei enw, ac mewn colofn arall yr oedd hanes ei farwolaeth; yr hyn a'm trawodd â syndod. Dyn da oedd Mr Hughes ym mhob peth. Fe deimlir ei golled nid yn unig yn y teulu, ond yn yr ardal yn gyffredinol. Tua'r flwyddyn 1888, fe sinciodd Mr Hughes ffynnon fawr yng nghanol pentref Rhostryfan, a hyny er budd i'r trigolion, ac fe adeiladodd adeilad bychan o'i hamgylch, fel ag y cedwid y dwfr yn lan. Byddai yn rhoi clo ar y ffynnon ddeg o'r gloch bob nos, a'i agor chwech o'r gloch y bore, felly y cedwid y dwfr yn bur ac yn lan i'r ardal. Byddai Mr Hughes yn barod i wneud pob peth a allai, ac nid oedd yn brin yn y gallu hwnw, mewn cyfoeth ac mewn talent. Teimlir ei golli yn fawr, yn ddiamau ym mhob symudiad yn yr ardal. Ei dad hefyd o'i flaen; bu yntau yn ddyn gwerthfawr i'r ardal, ac i'r Achos mawr, yr oedd yn flaenor gyda'r M.C. 
William Hughes, WernIasddu; Ellis Hughes, a H. H., y tri brawd. Hogiau fyddai yn ffeind i bawb, a'u mam yr un modd. Pwy bynnag ai at y Wernlasddu, byddent yn siŵr o gael croeso gan yr hen wraig. Ni fyddai dim gwahaniaeth pwy adeg o'r dydd na'r nos, mi fyddai cwpanaid o de i'w gael a brechdan denau yn barod; nid clewtiau o fara ar un plât a menyn ar un arall. Nid oedd yr un o'r hogiau yn aelodau eglwysig, ond mi fyddai Hugh yn dod i'r capel ambell i Sul, ond ni fyddai'r lleill byth yn dod. Byddent yn rhedeg ceir o Rostryfan i Gaernarfon, a hen ddreifar iawn oedd Wil. Yr wyf yn cofio fod T. Gwynedd Roberts, gweinidog Rhostryfan, a minnau yn dod i'r dref yng ngherbyd Wil, a chan fod Wil wedi cael ychydig o ddiod, yr oedd yn gyrru yn arw i lawr allt Pwll y Gro, yn agos i bont Saint, ac meddai Gwynedd Roberts wrtho: "Diar annwyl, tendiwch rhag ofn i'r ceffyl syrthio i lawr, Mr Hughes." "Na, dim perygl," meddai Wil, "neu os aiff i lawr, mi gaiff fynd i lawr heb ei ben."                Griffith Ellis, neu fel y gelwid ef, "Guto Cil Haul." Hen gymeriad hynod oedd Guto," a dywedid fod ei dad yn gallu witchio. 'Rwyf yn cofio i Guto gael dau ddyn o'r tloty i weithio iddo, ac iddo gymryd eu gofal. Byddai un o'r ddau a'i enw John Griffiths yn casglu cerrig yn dyrau bychain, a gwneud tan o'u hamgylch, gan feddwl y byddai yn gallu gwneud arian o ohonynt. Amser claddu John Griffith nid oedd neb ond Guto, a'r forwyn a pherson Betws Garmon yn yr angladd. Aethant ag ef mewn trol i Llanwnda, ac wedi i Guto gyrraedd glan y bedd hefo'r drol aeth yn ôl i orsaf Dinas i geisio help i dynnu’r corff o'r drol, a gofynnodd i John Lamrick, bos y criw oedd yn gweithio ar y Railway. Dywedodd Lamrick wrtho y delai i'w helpu gynted ag yr ai'r trên o'r station, a chan fod y trên wedi aros yn hwy heb fynd nag arfer, gofynnodd Guto eilwaith, "Wyt ti am ddŵad, John, ne mi lympia i o i'r d-l." Tro arall 'rwyf yn cofio i Guto werthu dau fochyn i Hugh Waenbant, a dywedodd Hugh wrtho, "Mae dau swllt ar hugain yr un yn bris mawr am y moch yma," ac meddai Guto, "Dywadd mawr! nag ydi, achos mi fetia i am goron y byddi di a Susan yn canu hymns wrth ddod o bwyso rhain."[5]

Cyfeiriadau

  1. Trydydd Cyfrifiad ar Ddeg o’r Unol Daleithiau, 1910, Trenton, Swydd Oneida, NY; https://www.familysearch.org/tree/pedigree/landscape/L12X-VQY
  2. Y Drych, 6.12.1917, t.4
  3. https://www.familysearch.org/tree/pedigree/landscape/L12X-VQY; Cyfrifiad plwyf Gelligaer, 1901
  4. Y Drych 20.5.1915 t.2
  5. Y Drych 15.7.1915 tt.1-2