Tafarn y Prince of Wales

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:53, 2 Tachwedd 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Tafarn y Prince of Wales ar ochr y lôn sydd yn arwain at bentref Tal-y-sarn o ganol Pen-y-groes, nid nepell o'r hen dŷ tyrpeg.

Ym 1871, John Griffith, gŵr lleol 33 oed a'i wraig Jane, 24 oed, oedd yn cadw'r dafarn. Roedd y busnes yn ddigon llewyrchus iddynt gyflogi dwy ddynes fel gweinyddesau, a chadwyd dau lodjer.[1]

Erbyn 1903, roedd y dafarn ym meddiant cwmni Greenall Whitley, ond er hynny, penderfynodd yr ynadon yn y Sesiwn Drwyddedu i beidio ag adnewyddu'r drwydded, a dichon mai yn y flwyddyn honno y caewyd y dafarn.[2]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871
  2. Gwalia, 10.3.1903, t.8