Katie Wyn Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:54, 25 Hydref 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd Katie Wyn Jones (1921-2005) o fferm Cefn Hengwrt, ger pentref Llandwrog.

Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor. Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi. Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol Eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei derbyn i'r Orsedd, ac offrymodd weddi'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.[1] Mae sawl grynoddisg o'i chanu ar gael.

Er nad oedd hi wedi dilyn gyrfa actores, bu'n chwarae rhan y fam yn ffilm fer A Letter from Wales a ryddhawyd ym 1953, a'i phlant go iawn oedd yn chwarae rôl debyg yn y ffilm.[2]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan North Wales Live, 23.3.2005 [1], cyrchwyd 23.10.2023; Lleu, Rhagfyr 2007
  2. Gwefan IMDb, [1], cyrchwyd 23/10/2023