Neuadd Goffa Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:18, 10 Hydref 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llun:David Medcalf

Codwyd Neuadd Goffa Pen-y-groes yn ystod y 1920au ar safle hen Neuadd y Farchnad. Mae'r adeilad yn wynebu safle Gorsaf reilffordd Pen-y-groes yn hytrach na'i fod yn amlwg o ganol y pentref. Gwelir elfennau (digon amrwd) o arddull adeiladu'r cyfnod yn yr adeilad, yn arbennig yr arysgrif uwchben y brif fynedfa.

Y tu allan, ar ganol Sgwâr y Farchnad, y mae cofeb ryfel y pentref gydag englyn enwog R. Williams Parry arni:

   O Gofadail gofidiau tad a mam!
      Tydi mwy drwy'r oesau
    Ddysgi ffordd i ddwys goffáu
    Y rhwyg o golli'r hogiau.

O'r Neuadd hon y cychwynnodd 2000 o ferched ar eu Gorymdaith y Merched dros Heddwch ym 1926.[1]

Cafwyd grantiau loteri ar ddechrau'r 2010au i adnewyddu'r adeilad, a defnyddir y neuadd a'i dwy brif ystafell, parlwr a chegin ar gyfer sawl gweithgaredd ar hyn o bryd, gan gynnwys Sioe Arddio, ffeiriau, prydau cymunedol, dosbarthiadau a darlithoedd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Plac ar yr adeilad