Alwyn Thomas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:00, 3 Hydref 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Alwyn Thomas (1910->1987), awdur llyfrau plant, yn hanu o dreflan Tan'rallt, plwyf Llanllyfni. Roedd yn unig fab Griffith R. (g.1874) a Jannet E. Thomas (g.1875). Hanai ei dad, oedd yn greigiwr yng Nghwarel Dorothea, o Gaernarfon, a'i fam o Dal-y-sarn.[1]

Enw ei gartref oedd Arfryn, sef 15 Tan'rallt. Roedd yn gefnder i Mathonwy Hughes.[2]

Yn y man fe fynychodd Coleg Diwinyddol Aberystwyth gan gael ei ordeinio'n weinidog ar ddechrau'r 1940au.[3]

Efallai ei lyfr mwyaf cyfarwydd oedd Teulu'r Cwpwrdd Cornel' a aeth i bedwar argraffiad o leiaf rhwng 1950 a 1993. Cyhoeddodd dros ddwsin o lyfrau plant, rhai o natur moesol a chrefyddol, ac ambell i lyfr arall. Fo oedd darlithydd Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes ym 1976, a'i testun oedd Tyfu mewn Cymdeithas.[4]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1911-21
  2. Gwefan Dyffryn Nantlle [1], cyrchwyd 3.10.2023
  3. Y Fflam, Cyf.1, Rhif 1, t.68
  4. Manylion o gatalog llyfrau LlGC