Hugh R. Owen (Tenorydd Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:39, 27 Awst 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Hugh R. Owen (1855-?), a arddelai'r enw llwyfan "Tenorydd Llyfnwy" ar adegau, yn unawdydd a berfformiodd yn gyson mewn cyngherddau yn Nyffryn Nantlle yn y blynyddoedd o gwmpas 1880. Ef oedd arweinydd Côr Llanllyfni am gyfnod. Ni cheir sôn amdano yn y wasg leol ar ôl 1880, ond nid yw'n hysbys ai symud i ffwrdd, marw, neu ymddeol o'r byd cerdd a wnaeth yr adeg honno.[1] Mae cyfeiriad at un "Hugh R. Owen" yn feirniad mewn gwledd a gynhaliwyd gan Ysgol Sul Pen-y-chwarel, Llanllyfni ym 1885. Tybed ai dyma'r un Hugh R. Owen.[2] Mae dyn o'r enw Hugh R. Owen yn cael ei restru yng Nghyfrifiadau 1891 a 1901 ar gyfer plwyf Llanllyfni; roedd yr Hugh R. Owen hwnnw'n arolygwr ac wedyn asiant chwarel lechi. A oedd hwn yr un un â'r cerddor, a thybed ai oherwydd ei gyfrifoldebau yn y gwaith y ciliodd o'r byd cerdd? Byddai'n braf cael gwybod.

Roedd o leiaf ddau arall a arddelai'r un enw llwyfan. Ym 1886, enillodd G.W. Jones (Tenorydd Llyfnwy) wobr mewn cyfarfod llenyddol y Methodistiaid yn Efrog Newydd[3]; a nodir yn Y Drych fod "Mr Davies" (Tenorydd Llyfnwy) a oedd yn "ddatganwr rhagorol" wedi marw ym Maesteg ym 1895.[4] Dyna'r unig gyfeiriadau sydd wedi dod i'r fei am y ddau wron hyn, ac nid yw'n hysbys beth oedd eu cysylltiad â Dyffryn Nantlle, os oedd yna gysylltiad o gwbl.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, passim, 1877-1880
  2. Y Genedl Gymreig, 16.9.1885, t.5
  3. Y Drych, 13.12.1886, t.5
  4. Y Drych, 19.12.1895, t.8