Tyrpeg Rhyd-ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:22, 22 Ionawr 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tyrpeg Rhyd-ddu yn sefyll ger y gyffordd rhwng y ffordd dyrpeg o Gaernarfon i Feddgelert, a'r ffordd dyrpeg a redai o Ryd-ddu i bentref Clynnog Fawr.

Yr arfer oedd i Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon osod pob giât dyrpeg i'r sawl a gynigiai'r swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a ai heibio'r giât. Roedd hi'n dollborth weddol broffidiol oherwydd y drafnidaeth o dri chyfeiriad, a rhwng 1840 ac 1880, roedd y rhent yn amrywio rhwng £40 ac £80. Fe'i caewyd, ynghyd â holl dollbyrth eraill yr Ymddiriedolaeth, ym 1882 pan "ryddhawyd" y ffyrdd, a thynnwyd y giatiau eu hunain i lawr.[1]

Cyfeiriadau

  1. R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.17 (1956), t.69