Band Ceidwadwyr Pen-y-groes
Ychydig iawn o hanes Band Ceidwadwyr Pen-y-groes sydd ar gael. Mae'n eitha tebygol mai rhyw fand bychan o bigion adar Toriaidd gwahanol fandiau'r ardal oedd hwn, yn rhoi ei wasanaeth ar adegau neilltuol megis etholiadau neu ymweliadau gwleidyddion Toriaidd pwysig â'r fro. Dichon mai dyma'r band a alwyd weithiau'n Band Pres neu Seindorf Bres Pen-y-groes, gan i'r band hwnnw chwarae mewn ffair wen Eglwys Crist ym 1889, a hynny o flaen holl foneddigion Eglwysig y fro.[1]
Meddai un gohebydd o'r cyfnod amdano : Wnaeth y seindorf na'r blaid fawr o gynnydd yn yr ardal oedd yn enwog y pryd hynny fel cadarnle Rhyddfrydiaeth.
Dyma'r band a arweiniodd yr orymdaith fawr yng Nghaernarfon adeg ymweliad yr Arglwydd Salisbury â'r dref yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Arferai'r band chwarae hyd strydoedd Pen-y-groes ar nos Galan. Yr arweinydd bryd hynny oedd J.E.Jones, Y Gors, fu hefyd yn arweinydd Band Nebo am gyfnod. Bu ef farw ym Mhontypridd, Morgannwg, ac yno y'i claddwyd.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma