Ezekiel Hughes, Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:00, 30 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd a gyfansoddodd englynion yn bennaf oedd Ezekiel Hughes (1850-1913) o Lynceiriog, Sir Ddinbych yn wreiddiol, ond a symudodd i fyw i Dal-y-sarn. Er i sillafiad ei enw amrywio rhwng Ezekiel, Ezeckiel ac Ezeciel, yn dibynnu ar sut yr oedd clercod y Cyfrifiad yn ysgrifennu ei enw, "Ezeciel" oedd ei sillafiad o pan gafodd lenwi ffurflen ei hun, !

Symudodd i Dal-y-sarn cyn ei fod yn 20 oed, gan lodjio yn Mount Pleasant. Bu'n byw yn 8 Brynderwen, Tal-y-sarn ym 1881 gyda'i wraig Ellen a hanai o Benmorfa, a'i fab William Thomas, 3 oed. Erbyn 1891, ac yn dal i fyw yn yr un tŷ, roedd y cwpl wedi cael dau blentyn arall, John C. a Sarah A. Chwarelwr ydoedd o ran ei alwedigaeth. Roedd y teulu cyfan yn dal ym Mrynderwen ym 1901, er eu bod wedi symud tŷ i rhif 12; ym 1911, roedd enw cartref y teulu (yn ddigon addas) yn Brynawen.[1]

Prin iawn oedd y manteision addysg a gafodd, ond trwy ddarllen a diwyllio ei hun daeth yn ddyn pur feddylgar ac yn aelod amlwg gydag enwad y Bedyddwyr. Cyhoeddwyd nifer o'i gynhyrchion barddonol (englynion gan mwyaf) yn rhai o bapurau newydd a chyfnodolion ei gyfnod, yn arbennig Y Geninen. Ym mis Hydref 1913 cafwyd coffâd iddo fel bardd a chrefyddwr yn Y Greal. Dyma un englyn o'i eiddo (nad yw'n un gwefreiddiol mae'n wir) a gyfansoddodd i'r Athro Silas Morris (1862-1923), Prifathro Coleg y Bedyddwyr ym Mangor. Roedd y prifathro ar yr achlysur hwnnw wedi torri ei gyhoeddiad yn rhyw gapel neu'i gilydd (mae'n bosib yn Nyffryn Nantlle) ac wedi anfon un o'i fyfyrwyr yn ei le, er siom i'r gynulleidfa, fel y nodir yn yr englyn:

 Sylw raid wneyd o Silas - yn symud
     At siomi cymdeithas;
  Gwir i'r gŵr ro'i gair i'r "gwas",
  Erddo, er cadw'i urddas.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1871-1911
  2. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.99.