William Dafydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:25, 22 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

William Dafydd oedd y pregethwr cyntaf a godwyd ymysg Methodistiaid cynnar Llanllyfni. Dichon mai William Williams o'r Buarthau yn Llanllyfni oedd y cyntaf i gael ei gyffwrdd gan bregethu'r Methodistiaid, a hynny ym 1758. Yn fuan wedyn, aeth â ffrind agos iddo, William Dafydd, i wrando ar y pregethu yn y Berth-ddu Bach, plwyf Clynnog Fawr. Yn y man, dechreuodd William Dafydd ei hun bregethu ac felly y parhaodd bron hyd ei farwolaeth ar ddiwrnod cyntaf 1802 wedi salwch hir. Pregethwr uniongred a dibynadwy ydoedd yn ôl ei gyfoeswyr, ac yn ddyn "call, addfwyn, enillgar, cymeradwy." Yn un o sylfaenwyr Capel Salem (MC), Llanllyfni ym 1766, roedd hefyd yn un o sylfaenwyr yr Ysgol Sul a ddechreuwyd yn y capel ym 1796.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), tt.109-15