Chwarel Lechi Ton

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:23, 1 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Chwarel Lechi Ton (hynny yw, chwarel a gynhyrchai lechi i'w gwerthu wrth y dunnell) tua 60 llath i'r gogledd o Chwarel Biggs, ac yn un o'r mân chwareli a ddaeth yn un twll mawr dros amser fel rhan o Chwarel Tal-y-sarn. Erbyn 1858, roedd twll y chwarel tua 40 llath o hyd, 25-30 llath o led a thua 20 llath o ran ei ddyfnder. Chwarel a gynhyrchai slabiau o lechi oedd hi i raddau, a llechi a werthwyd yn ôl y dunnell neu fesul un - sef "ton and tally slates", llechi fel arfer o faintioli sylweddol ond amrywiol.[1]

Fe werthwyd y cloddfeydd bychain hyn gyda gweddill tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[2] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll Chwarel Tal-y-sarn ei hun.

Cyfeiriadau

  1. "A Glossary of Slate and Stone Roofing", [1], cyrchwyd 19.11.2022
  2. Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice(Llundain, 1860), t.4. [2].