Ponc Rundell

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:16, 19 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ponc Rundell neu "Rundell's Gallery" yn un o'r cloddfeydd cynnar ar dir fferm Tal-y-sarn a werthwyd ym 1827 i gwmni o ofaint aur o Lundain, Rundell a Bridge. Mae'n amlwg mai o enw'r cwmni hwnnw y daeth enw'r bonc.Roedd ym mhen mwyaf gorllewinol tir fferm Tal-y-sarn (sef ychydig i'r dwyrain o bentref Tal-y-sarn heddiw. Erbyn 1858, roedd hi'n dwll 170 llath o hyd, 50-70 o led a 65 llath o ddyfnder, yn cynnwys tair lefel. Yr awgrym ym 1858 oedd y gellid torri trwodd i Chwarel Onnen, ac o wneud hynny, byddai modd gosod 60 bargen ym Mhonc Rundell.[1]

Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr Chwarel Tal-y-sarn - hynny, mae'n debyg, ar ôl 1873.

Cyfeiriadau

  1. Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice(Llundain, 1860), t.3-4. Mae copi brosbectws dyddiedig 1859 ar gyfer cyfranddaliadau yng Nghwmni Chwarel Tal-y-sarn ar y We, ac mae'n rhoi manylion am y chwarel:[1].