Chwarel Biggs

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:19, 19 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Chwarel Biggs yn un or chwareli gorau Dyffryn Nantlle o ran safon y llechi a godwyd yno, oherwydd ei bod yn dwll ar wythïen Cilgwyn neu'r "Fein Goch". Enw arall ar y chwarel oedd Chwarel Newydd (New Quarry). Erbyn 1858, roedd hi tua hanner can llath o hyd a phymtheg i ugain llath o led, ac yn weddol ddwfn ac felly roedd angen codi'r llechi i lefel y dramffodd gyda pheiriannau. Dyma, mae'n debyg, oedd y brif gloddfa pan werthwyd tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[1] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr Chwarel Tal-y-sarn.

Mae'n bosibl bod y chwarel hon wedi ei henwi yn ôl enw un Capten Biggs, y sonnir amdano mewn llythyr ym 1851 - byddai'r teitl "capten" yn cyfeirio at reolwr cloddfa y pryd hynny.[2]

Cyfeiriadau

  1. Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice(Llundain, 1860), t.4. Mae hyn yn cynnwys hysbyseb ar ffurf copi o'r prosbectws am gyfranddaliadau yng Nghwmni Chwarel Tan-y-sarn ar y We, ac mae'n rhoi manylion am y chwarel ym 1859:[1].
  2. Archifdy Glynllifon, XD2/23499