Ioan ap Ioan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:16, 6 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rhestrir y bardd Ioan ap Ioan ymysg beirdd Dyffryn Nantlle ym 1888. Serch hynny, heblaw am un cyfeiriad sydd wedi dod i'r fei am ryw Ioan ap Ioan yn ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod Tal-y-sarn ym 1900, ni cheir cyfeiriad pendant ato yn y dyffryn. Mae'n bur amheus ai John Williams (Ioan ap Ioan) (1800-1871) yw'r dyn sydd dan sylw yma. Gŵr o Lanrwst oedd hwnnw a wasanaethodd fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn y de ar hyd ei oes. Yr oedd Ioan ap Ioan arall, a drigai yn y Ro-wen, Dyffryn Conwy yn y 1880au ac wedyn, ac yn Wesle selog - ond nid oes unrhyw gofnod o hwnnw'n byw yn Nyffryn Nantlle. Yr unig beth arall sydd yn hysbys amdano yw'r ffaith nad oedd yn cynganeddu.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, 29.5.1900, t.8