Owen Morris (Owain Meurig)
Ychydig a wyddys am fywyd Owen Morris (1856-1918). Mab Cae'r ffridd ym mhlwyf Llanllyfni ydoedd. Credir mae Ellen Jones (g.1824 yn Llanllyfni) oedd ei fam. Bu'n gweithio fel chwarelwr gydol ei oes. Priododd ag Annie tua 1882, a chawsant o leiaf bedwar o blant, Ellen (g.1883) a aeth yn athrawes ysgol; John Pierce. (g.1885) a weithiai fel saer; Mary Winnie (g.1886); a Nesta Catherine (g.1896).
Ar ôl priodi, a byw, mae'n ymddangos, yng Nghae'r Ffridd am rai blynyddoedd)[1], symudodd y teulu i Dan-y-ffordd, Llanllyfni. Yr oeddynt yno erbyn 1891 ond erbyn 1901 roedd cartref y teulu yn y Tŷ Capel yn Nebo ac yn y fan honno arhosent weddill eu hoes. Codwyd Owen Morris yn flaenor Capel Nebo (MC) ym 1914.[2] Bu farw yn annisgwyl fis Awst 1918, a'i wraig wedi marw o'i flaen. Nododd Y Goleuad ba fath o gymeriad ydoedd: " Bardd, llenor a daearegwr da...wedi diwyllio ei hun yn lled helaeth".[3]
Fel bardd, mae'n debyg ei fod yn medru llunio englynion a cherddi go lew, ond prin ei fod ymysg y goreuon. Mewn tabl o'r 18 bardd gorau yn yr ardal ym 1888, fe'i gosodwyd yn bymthegfed o ran safon allan o ddeunaw bardd a oedd yn barddoni y pryd hynny.[4] Fodd bynnag, serch ei safon yn ôl y graddio hynny, cafodd nifer o'i ddarnau eu cyhoeddi yn Y Geninen tua throad y ganrif.