Evan Lloyd Jones
Mab i'r chwarelwr, y bardd a'r diacon Evan Jones (Ieuan Nebo) oedd Evan Lloyd Jones (g.1885). Brodor o Nebo ac yn un o blant Capel Nebo (MC) ydoedd. Ar ôl derbyn addysg elfennol a chanolradd, cafodd swydd fel athro cynorthwyol yn Ysgol Gynradd Nebo, gan anelu at fynd i'r brifysgol. cafodd yr enw o fod yn fachgen o ymarweddiad hardd, ac o grefyddolder dwys bob amser, er na fuodd o'n cymryd rhan amlwg yn gymdeithasol nes i Ddiwygiad 1904 dorri allan yn yr ardal.[1] Yn fuan wedyn, fodd bynnag, dechreuodd arwain yr holl gyfarfodydd diwygiadol yn Nebo,ynghyd â sawl un mewn mannau eraill, fel pe bai wedi cael oes o brofiad. Cafodd Evan Lloyd ei ddisgrifio fel "the young Nantlle revivalist" ac yn "arweinydd ieuenctid De Sir Gaernarfon". Fe deithiodd ymhell hefyd i gefnogi'r Diwygiwr mawr Evan Roberts. [2]
Erbyn 1911, yr oedd Evan Lloyd Jones wedi ymgeisio am y weinidogaeth ac yn astudio yng Ngholeg y Bala. Bu'n lletya yn y dref honno yn 41, Heol Tegid.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma