Evan Jones (Ieuan Nebo)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:38, 19 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y chwarelwr Evan Jones (Ieuan Nebo) (marw 1910) yn flaenor dylanwadol yng Nghapel Nebo, ym mhentref Nebo. Dyn trymaf yr eglwys yn ddiamheuol, yr oedd yn cael ei gydnabod fel llenor, bardd a cherddor, ac yn ddiwinydd o radd uchel, ac yn llawn o wasanaeth bob amser. Serch ei aml ddoniau, ni edrychid arno fel bardd mawr fodd bynnag, gan i un sylwebydd yn ei osod yn ail ar bymtheg allan o ddeunaw o feirdd y Dyffryn ym 1888, a hynny yn nhrefn rhagoriaeth.[1] Mae'n debyg iddo foddddddddd yn well gerddor na bardd, a cheir adroddiadau niferus yn y papurau newydd amdano'n artist mewn cyngherddau lleol y dyffryn.

Bu'n arweinydd y canu yn y capel am gyfnod maith, ac ym 1900 codwyd ef yn flaenor. Roedd yn fedrus fel siaradwr cyhoeddus a byddai'n arwain seiat yn gwbl naturiol, a hynny gyda’r ysbryd gorau bob amser, Roedd hefyd yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul. Dyn efengylaidd iawn ydoedd Evan Jones ac yn weddïwr mawr.[2]

Roedd ganddo fab, Evan Lloyd Jones, a gafodd ei ddsigrifio fel "the young Nantlle revivalist" ac yn "arweinydd ieuenctid De Sir Gaernarfon" yn ystod Diwygiad 1904-5.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  2. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 16.2.2020
  3. Cardiff Times, 14.1.1905, t.8