Edward Haycock

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:05, 2 Gorffennaf 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Glynllifon, yn ei ffurf wreiddiol fel y'i hadeiladwyd gan Edwrad Haycock

Edward Haycock (1790-1870) oedd y pensaer a gyflogwyd gan Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough i ddylunio'r gwaith ailadeiladu ac ail-greu Plas Glynllifon ar ôl y tân trychinebus ym 1836 a adawodd y plasty'n gragen. Mae lle i gredu (o lythyrau Newborough a Haycock at ei gilydd) fod Newborough wedi chwarae rhan eithaf rhagweithiol yn y dyluniadau, gyda Haycock yn trosi syniadau a bras-ddyluniadau'r cleient yn gynlluniau pensaernïol cadarn.

Glynllifon oedd unig waith Haycock yn Sir Gaernarfon ond ef oedd pensaer Neuadd Sir Feirionnydd (yr hen lys) yn Nolgellau, ac ef hefyd ddyluniodd dref newydd Aberaeron, ymysg llawer o brosiectau eraill.[1]

Cyfeiriadau

  1. Tudalen Wikipedia ar Edward Haycock Snr. [1]. Mae rhestr bur gyflawn o'i waith i'w gweld yno.