Richard Evans
Yr oedd Richard Evans (?-?1619) yn ficer Llanaelhaearn. Yr oedd yn fab i Evan ap Huw, a fu farw, yn ôl J.E.Griffith, ym 1559. Yr oedd taid Richard Evans, Huw ap Robert Fychan o Dalhenbont, Llanystumdwy wedi priodi Elizabeth ferch Madog ap Llywelyn ap Morgan o Elernion, a thrwy honno yr etifeddodd Richard Evans eiddo Elernion. Nid yw'n wybyddys am faint y bu Richard Evans yn ficer Llanaelhaearn, er dichon iddo fod yn byw yn Elernion wedi i'r tŷ hwnnw gael ei adeiladu'n wreiddiol a hynny tua ddiwedd y 16g.[1] Mae'n bosibl ei fod wedi etifeddu'r eiddo gan ei frawd hŷn, Humphrey Evans. Bu'n cymryd diddordeb yn ei eiddo, a oedd yn cynnwys tir ym mhlwyf Llanwnda, ac ef oedd yn gyfrifol am godi Melin y Bont-faen tua dechrau'r 17g.[2]
Priododd Richard Evans Ann, merch y Dr. Edmund Meyrick, Archddiacon Meirionnydd, ac mae'n bosibl mai trwyddo ei ddylanwad ef y cafodd fywoliaeth oedd yn fwy bras fel ficer Hendon ger Llundain. Cafodd y cwpl ddau o feibion, sef Edmund, a briododd Catherine, merch Owen Griffith o Dreiorwerth; a Humphrey (a etifeddodd Elernion) a briododd Catherine, merch William Glynn, Glynllifon.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ G.R.J. Jones, "Early Settlement in Arfon: The Setting of Tre'r Ceiri" (Trafodion Cy. Hanes Sir Gaernarfon), Cyf.24, (1963), t.6; Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.99
- ↑ W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.34, 172, 175