Melin Pant-glas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:13, 10 Gorffennaf 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Melin Pant-glas, a falai rawn, ychydig i'r dwyrain o bentref Pant-glas, erbyn heddiw, ger safle'r rhes o dai cyngor. Safai ar lan nant sy'n llifo i Afon Dwyfach ger Pont Ynyspwntan. Roedd llyn melin yno i gryfhau llif y dŵr.

Mae hi'n cael ei nodi ar y map degwm, 1840, pan oedd Emmanuel Griffiths yn felinydd yno. Owen Jones Ellis Nanney oedd y perchennog.[1] Erbyn y flwyddyn ganlynol, enw'r melinydd oedd Robert Roberts, gŵr tua 35 oed.[2]Ym 1865, John Williams, tenant fferm Ffridd y Clogwyn, oedd yn cadw'r felin.[3] Ym 1881, John Thomas, 36 oed oedd yn cadw'r felin.[4]

Roedd map Ordnans 1888 yn dangos y felin, ac felly mae'n dyddio'n ôl i'r 19g o leiaf. Erbyn map a dirfesurwyd ym 1913, nodir fod y felin wedi cau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Map degwm plwyf Clynnog, 1840
  2. Cyfrifiad plwyf Clynnog 1841
  3. Llyfr rhenti plwyf Clynnog, 1865
  4. Cyfrifiad plwyf Clynnog 1881