Cofeb Ryfel Llanaelhaearn
Mae Cofeb Ryfel Llanaelhaearn yn adeiledd trawiadol a chwaethus ar fin y ffordd fawr wrth deithio trwy Lanaelhaearn i gyfeiriad Pwllheli (ochr chwith yr A499 a dros y ffordd i Antur Aelhaearn).
Lleolwyd y gofeb yn ei safle presennol yn dilyn gwaith sylweddol a wnaed ym 1992 a chynhaliwyd gwasanaeth i'w chysegru yn ei chartref newydd ar 19 Gorffennaf y flwyddyn honno gyda thyrfa sylweddol yn bresennol. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Canon Idris Thomas a oedd yn rheithor Llanaelhaearn ar y pryd. O amgylch y gofeb ei hun codwyd wal a phorth pigfain hardd o wenithfaen yr Eifl gyda giât haearn gain yn agor i lecyn wedi'i balmantu o flaen y gofeb. O fewn y llecyn hwn codwyd y gofeb ei hun, eto o'r wenithfaen leol ac ar yr un cynllun â'r porth pigfain. Ar y gofeb ceir dwy goflech wedi'u caboli, yr un uchaf yn coffáu'r dynion a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r un o dani yn cofio'r rhai a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd.
Ar y goflech uchaf ceir enwau y canlynol:
Er Serchus Gof Am
Lt. Col. Thomas Richard Evans, D.S.O. R.W.Fus Private Thomas Roberts, Welsh Guards Private Richard Evans, R.W.Fus Private Thomas Bowen Hughes, R.W.Fus Private Edward John Turner, R.W.Fus Private Thomas Ellis Jones, R.W.Fus
Rhai a Gwympasant yn y Rhyfel Mawr 1914-1918 "Mewn anghof ni chant fod"
Ar y goflech o dani enwir y canlynol:
Rhyfel 1939-1945
Capt. Griffith Stanley Jones, M.N. Flt. Lieut. Thomas Arthur Evans, R.A.F. Flt. Sgt. Goronwy Jones, R.A.F. Gnr. Hugh John Hughes, R.A.
Eu henwau'n perarogli sydd.