Ellis Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:18, 28 Ebrill 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Magwyd y bardd Ellis Jones (29 Ebrill, 1906 - 20 Mai, 1996) yn y fferm Gilwern Uchaf, rhwng Rhostryfan a’r Groeslon, ym mhlwyf Llandwrog. Yn fab i Owen R. Jones a’i wraig Margaret Ann Jones, ac yn un o saith o blant, chwe bachgen ac un merch.[1]

Roedd yn englynwyr medrus ac yn cystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Ymunodd â Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1948.[2]

Gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Gobaith Gwan’ enillodd y gystadleuaeth ‘Englyn digri’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth,1952 a feirniadwyd gan Waldo Williams[3].

Gwlanen Goch "Fy ewyrth sy’n rhy fywiog - yntau’n hen

   Eto’n ŵr cyfoethog;

O wisgo’r wlanen enwog

Ar oer hin - difarw yw’r rôg."


Roedd yn fardd a ddaliodd egwyddorion cryf ac ymddiswyddodd o’r Orsedd pan dderbyniodd Cynan (Albert Evans Jones) ei urddo’n farchog yn 1969.

Cynhwyswyd a chyfieithwyd un o’i englynion ar gyfer y gyfrol Oxford Book of Welsh Verse.[4] Dyma’r gerdd wreiddiol[5].

Bargoed "Rhu’n ddi-daw tra bo’n glawio - seiniau mwyn,

        Fel swn mil yn godro:
    Pan geir rhew yn dew ar do,
    Daw hynod dethau dano." 

Ymgartrefodd yn Llanllyfni a bu'n gweithio i gynghorau lleol yn cynnal ffyrdd y fro. By farw ym 1996 yn 90 oed.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau 1911 a 1921.
  2. Western Mail: 12/7/48.
  3. Eisteddfod Genedlaethol Cymru – cyfansoddiadau a beirniadaethau: Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth (1952).
  4. The Oxford Book of Welsh Verse/ golygwyd gan Thomas Parry (Rhydychen, 1962).
  5. Gwybodaeth teuluol.