Melin-y-coed

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:32, 20 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Credir fod melin o'r enw Melin-y-coed wedi bod ar dir Fferm Y Morfa, Trefor, ar lan Afon Tâl. Byddai'n gwneud pob synnwyr bod melin falu grawn yn y gymdogaeth, ac mae enw tyddyn arall gerllaw, Bryn Gwenith (sy'n ffinio â thir y Morfa), yn dystiolaeth y byddai angen am felin yno. Ysywaeth, er bod darn o dir o'r enw Cors y Felin ar lan yr afon, ac mai enw arall ar Bryn Gwenith yw Tyddyn-y-felin, nid oes unrhyw dystiolaeth amlwg ar y llawr o ble'n union y safai'r felin.[1] Efallai mai'r dystiolaeth orau am ei lleoliad oedd enw ar glwt o dir yn union ar lan yr afon, i'r de-ddwyrain o fferm y Morfa. Ceir ar restr y Degwm (tua 1839) ddarn bach o dir, 3 rŵd o ran ei arwynebedd ac wedi ei orchuddio â choed, o'r enw "Clwt yr hen felin". Rhan o fferm y Morfa ydoedd, y tenant ar y pryd oedd Hugh Jones, a'r perchennog oedd Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough. Mae'n amlwg nad oedd y felin wedi bod yn malu am amser maith cyn 1839, gan nad oes adeilad wedi'i farcio ar y map.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth yn erthygl ar Tyddyn y Morfa, Trefor.
  2. Map Degwm Llanaelhaearn, [1]