David Wilson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:29, 20 Chwefror 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu David Wilson yn cadw ysgol ddyddiol yn Y Ffrwd ym mhlwyf Llandwrog o 1787 tan 1789.

Brodor o Garno yn Sir Drefaldwyn oedd David Wilson ac roedd yn berthynas agos i Richard Wilson, un o arlunwyr tirlun mwyaf nodedig y 18g. Ceir cofnod fod David Wilson wedi agor ysgol ddyddiol yn Y Ffrwd ar 10 Mehefin 1787. Ymhlith y rhai a gafodd addysg ganddo yn ystod y cyfnod byr y bu yno oedd John Parry (Y Parch. John Parry, Caer yn ddiweddarach), a fagwyd yn y gymdogaeth. Gadawodd Wilson ei ysgol yn Y Ffrwd ddechrau 1789 a mynd i gadw ysgol i Frynsiencyn, Môn. Oddi yno symudodd i Lanllechid lle bu'n cadw ysgol yn eglwys y plwyf hwnnw am 5 neu 6 blynedd. Yna, ym 1798 neu 1799 symudodd drachefn i Nefyn pan gafodd swydd Swyddog Tollau (Custom House Officer) yno, a rhaid cofio fod Nefyn a Phorthdinllaen yn borthladdoedd bach digon prysur bryd hynny. Yno cymerodd ran flaenllaw yng ngwaith eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref (y Capel Isa' fel y'i gelwir) ac fe'i hetholwyd yn flaenor yno'n fuan wedi iddo ddod i Nefyn i fyw. Yno y treuliodd weddill ei oes a bu farw'n 81 oed ar 7 Ionawr 1848.[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Parch. Owen Pritchard, Hanes y Methodistiaid Calfinaidd yn Nefyn, (Pwllheli, 1927), tt.32-4.