Ysgol Brynaerau
Ysgol gynradd sydd yn gwasanaethu ardal Mhontlyfni yw Ysgol Brynaerau.
Agorwyd yr ysgol ym 1902-3, yn wreiddiol yn festri Capel Brynaerau (MC) a gelwid hi bryd hynny yn Brynaerau Council School. Mae'r ysgol yn gweithredu hyd heddiw yn yr adeilad a godwyd ym 1912, er bod darnau diweddarach wedi cael eu hychwanegu ato.[1] Fe'i hystyrid yn adeilad arloesol oherwydd maint a nifer y ffenestri, a hynny yn ôl cysyniad "ysgol awyr agored". Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal weddol eang, yn cynnwys Clynnog Fawr, Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Aberdesach a Phontlyfni. [2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma