Ysgol Brynaerau
Ysgol gynradd ym Mhontllyfni yw Ysgol Brynaerau.
Agorwyd yr ysgol ym 1905, a gelwid hi bryd hynny yn Brynaerau Council School. Mae'r ysgol yn gweithredu hyd heddiw yn yr un adeilad gwreiddiol, er bod darnau diweddarach wedi cael eu hychwanegu ato. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal weddol eang, yn cynnwys Clynnog Fawr, Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Aberdesach a Phontlyfni. [1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma