Bysiau E.J. Hughes
Cwmni oedd yn rhedeg bws o Ben-y-groes i Ddinas Dinlle ac i Gaernarfon oedd Cwmni E.J. Hughes. Fe'i cymerwyd drosodd gan gwmni Crosville ar 15 Mehefin 1936.[1]. Fe ymddengys na throsglwyddwyd unrhyw gerbydau o'i eiddo i gwmni Crosville a oedd, erbyn hynny, yn ceisio safoni eu fflyd trwy ddefnyddio bysiau Leyland yn unig.[2]
Dim byd arall wedi dod i'r amlwg ynglŷn â'r gwasanaeth hwn hyd yn hyn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma