R.P. Hughes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:48, 6 Gorffennaf 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Robert Peter Hughes (m.1909) yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn o 1894 hyd 1902.

Roedd yn ŵr priod ac yn frodor o'r Rhyl, ac ym 1876 graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Llundain. Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon ym mis Mai 1877 ac yn offeiriad flwyddyn yn ddiweddarach. O 1877 hyd 1894 bu'n gurad Llanbeblig, Caernarfon, a thra yno roedd hefyd yn Gaplan Carchar Caernarfon (1881-94). O 1886 hyd 1888 bu'n Gaplan i Uchel Siryf y sir.

Fe'i sefydlwyd yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn ar 25 Ionawr 1894. Gadawodd y plwyf ym 1902 i fod yn rheithor Llanfaethlu ym Môn, lle y bu hyd ei farwolaeth ym 1909. Cair tabled er cof amdano yn yr eglwys honno.