Dewines Coch-y-big
Fe edrydd stori gan Syr John Rhŷs am ddewines a oedd yn byw tua ddechrau'r 19g. yng Nghoch-y-big, fferm yn ardal Brynaerau. Dywedodd fod William Thomas, hen ŵr Brysgyni ganol, fferm arall yn yr ardal yn cofio iddo fynd i Goch-y-big pan oedd yn llanc ifanc. Yno fe welodd crochan lawn llymru yn berwi ar y tân nes iddi gael ei chipio'n sydyn gan "law anweledig", a'r funud nesaf fe welaf y grochan yn dal i ferwi ond yn uchel yn nenfwd y tŷ. Pan oedd William Thomas yn codi ffrae, fel yr arferai wneud yn aml, byddai sawl oedd odani fygwth mynd â'r mater gerbron derwines Coch-y-big - ac y byddai yntau'n tawelu "fel oen llyweth" yn y fan a'r lle.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.9