Thomas Jones, rheithor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:29, 2 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Jones yn rheithor plwyf Llanaelhaearn o 1904 hyd 1922.

Brodor o Lanbedr Pont Steffan ydoedd, yn frawd i'r Parchedig Griff Jones, Mostyn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Aidan Sant, Penbedw ym 1881, a'i ordeinio'n ddiacon ym 1883 ac yn offeiriad ym 1884.

Bu'n gurad Llandinorwig o 1883 hyd 1894 ac yn ficer Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon o 1894 hyd 1904.

Fe'i sefydlwyd yn rheithor plwyf Llanaelhaearn ar 12 Tachwedd 1904.