Streic Chwarel yr Eifl Rhagfyr 1880

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:12, 24 Tachwedd 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y 1870au yn gyfnod o gynnydd sylweddol yn hanes pentref Trefor ond hefyd yn ddegawd o wrthdaro diwydiannol a chymdeithasol ar arweiniodd at streic yn Chwarel yr Eifl yn Rhagfyr 1880.

Fe dreblodd y boblogaeth yn ystod y cyfnod yma ac adeiladwyd nifer o strydoedd newydd. Heidiodd cannoedd o newydd-ddyfodiaid i'r pentref, rhai o ardal Penmaenmawr a llawer o Loegr hefyd. Gyda'r bobl ddwad fe ddaeth syniadau newydd i'r ardal. Roedd rhyddfrydiaeth ac athroniaeth yn ennill tir a'r boblogaeth yn dod yn fwy llythrennog. Roedd yr hen Galfiniaeth a fynnai ufudd-dod di-gwestiwn i'r meistri yn dechrau ymddatod a'r werin yn sylweddoli fod yn rhaid brwydro dros hawliau'r gweithiwr.

Cynyddodd Seisnigrwydd yn y pentref hefyd. Trigai tua phump i chwe chant o deuluoedd Cymreig yn Nhrefor bryd hynny, a thua hanner cant o deuluoedd Seisnig - y mwyafrif ohonynt wedi ymfudo o sir Gaerlŷr. Fel Sais, roedd gan George Farren, rheolwr y chwarel, gydymdeimlad naturiol â'r bobl yma ac ni hoffai'r Cymry hynny. Roedd gwrthdaro rhwng y ddwy gymdeithas yn anochel.

Digon truenus oedd amodau byw'r gweithwyr yn Nhrefor bryd hynny, ac nid oedd cwmni'r gwaith yn poeni fawr ddim am gyfforddusrwydd y trigolion. Gwneud arian o'u crwyn i'r cyfranddalwyr oedd eu hunig amcan. Fodd bynnag, roedd rhai pobl yn dechrau aflonyddu a chafodd y gweithwyr ergyd drom yng Ngorffennaf 1876 pan ostyngwyd y cyflogau 5%, ac awgrymwyd y byddai gostyngiad pellach y flwyddyn ganlynol.

Tua'r pryd yma penodwyd Thomas Jones, gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn y chwarel. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith.

Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith gan Farren am ysbaid. Fe'i hail-agorwyd ddiwedd Tachwedd, ond dim ond y Saeson aeth yn ôl i weithio a rhyw ddyrnaid o Gymry gyda hwy. Roedd y mwyafrif yn parhau i fynnu gwell amodau gwaith a byw ac adfer Thomas Jones i'w swydd. Llwyddwyd i ddarbwyllo'r Cymry i gyd ond dau i beidio â gweithio a dywedir i'r ddau gael curfa dost am eu rhyfyg. Wedi'r ymladdfa yma rhuthrodd torf fawr o'r Cymry drwy'r pentref a ffodd y Saeson yn eu dychryn yr holl ffordd i Ben-y-groes i alw'r plismyn. O ganlyniad i hynny daeth 30 o blismyn i Drefor a buont yno am bythefnos. Gwysiwyd Thomas Jones a rhai o'r gweithwyr gerbron yr ynadon ym Mhwllheli ar gyhuddiadau o fygwth ac ymosod a chawsant eu dirwyo.

Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd Farren yn ysu am gael trefn ac ail-agor y gwaith oherwydd bod y streic yn achosi colled drom i'r cwmni. Cyfarfu'r gweithwyr ar 7 Rhagfyr a phleidleisiodd dwy ran o dair dros ddychwelyd i'r gwaith. Felly y gorffennodd un o'r penodau mwyaf cythryblus yn hanes cynnar Chwarel yr Eifl.[1]

Cyfeiriadau

1. Seiliwyd yr uchod ar gofnodion Cymdeithas Hanes Trefor ar gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Trefor 16 Rhagfyr 1985 pryd y cafwyd darlith gan Geraint Jones ar "Streic Chwarel yr Eifl, Rhagfyr 1880".