Jerry Hunter
Academydd a llenor Americanaidd yw Dr Jerry Hunter (ganwyd 1965), sy'n dod yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio. Pan oedd yn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cincinnati cyflwynwyd llenyddiaeth Gymraeg iddo. Daeth i Gymru ac i Lanbedr Pont Steffan i ddysgu Cymraeg ar gwrs dwys, ac wedyn i Brifysgol Aberystwyth i ddilyn MPhil yn y Gymraeg.
Aeth yn ôl i Cincinnati a bu yn athro yno, yn gweithio ar fferm ei dad ac yn weithiwr cyflogedig i Greenpeace. Cafodd ddoethuriaeth o Brifysgol Harvard ar ôl astudio Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd. Wedyn bu yn ddarlithydd yn Harvard am ychydig cyn dod yn ôl i Gymru.
Mae wedi dal swyddi academaidd ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bangor. Mae'n un o'r aelodau a sefydlodd grŵp Cymuned.
Enwyd ei lyfr Soffestri’r Saeson (2000) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr Llwch Cenhedloedd y wobr yn 2004. Enillodd y nofel Gwenddydd y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.
Llyfryddiaeth
Cymraeg
- Soffestri’r Saeson (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
- Llwch Cenhedloedd (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
- I Ddeffro Ysbryd y Wlad: Robert Everett a’r Ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Americanaidd (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Ceffylau'r Cymylau (Gwasg Gomer, 2010)
- Gwenddydd (Gwasg Gwynedd, 2010)
- Llwybrau Cenhedloedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012)
- Gwreiddyn Chwerw (Gwasg Gwynedd, 2012)
- Ebargofiant (Y Lolfa, 2014)
- Y Fro Dywyll (Y Lolfa, 2014)
- Ynys Fadog (Y Lolfa, 2018)
Saesneg
- Welsh Writing from the American Civil War (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
- Dark Territory (Y Lolfa, 2018)