Cyngerdd Nadolig Maesyneuadd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:59, 6 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Am rai blynyddoedd hyd at tua 1960 bu Cyngerdd Nadolig Maesyneuadd yn achlysur pwysig yn Nhrefor. Fe'i cynhelid gyda'r nos ar Ddydd Nadolig ac roedd y capel helaeth yn llawn yn gyson gyda'r pentrefwyr a thrigolion o ardaloedd cyfagos yn tyrru yno. Deuai cantorion o fri fel David Lloyd a Leila Megane i berfformio ynddo, yn ogystal â doniau lleol. Fodd bynnag, aeth poblogrwydd y cyngerdd i lawr yn rhyfeddol o sydyn yn y diwedd a dywedir mai'r prif reswm am hynny oedd dyfodiad nifer cynyddol o setiau teledu i gartrefi'r fro at ddiwedd y 1950au.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol