O.P. Huws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:05, 7 Hydref 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae O.P. Huws yn ddyn busnes sy'n byw yn Nebo. Mae wedi bod yn gysylltiedig â nifer o fentrau busnes ers hanner canrif, yn cynnwys busnes magu a gwerthu cywion ieir a chwmni cynhyrchu sudd aeron. Ei fenter fwyaf enwog erbyn hyn, efallai, yw ei waith gyda Cwmni Sain. Sefydlwyd Fideo Sain fel adran annibynnol o fewn y cwmni ar ddechrau'r 1990au, a hynny dan ei ofal. Bu Sain yn dosbarthu fideos o raglenni S4C ers canol yr 80au, ond bellach ychwanegwyd fideos gwreiddiol. Yn Stiwdios Sain y dechreuodd Wil Cwac Cwac a Guto Gwningen siarad Cymraeg ar fideo a DVD. Ym 1997, newidiwyd yr adran fideo'n adran aml-gyfryngol, gydag O.P. Huws yn bennaeth arni. Yn 2007, fe ymddeolodd fel Pennaeth yr Adran Amlgyfrwng, ond mae’n parhau i fod yn un o Gyfarwyddwyr y cwmni. (Y ddau Gyfarwyddwr arall yw Dafydd Iwan a Hefin Elis).

Mae wedi bod yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llanllyfni - ac yn gynghorydd sir am gyfnod sylweddol hefyd ar ran Plaid Cymru. Ef yw awdur nifer o'r tudalennau mwyaf manwl yn ymdrin â hanes yr ardal ar wefan Dyffryn Nantlle.

Mae'n dad i'r academydd y Dr Bleddyn Owen Huws o Brifysgol Aberystwyth.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol a thudalen Cof y Cwmwd am Cwmni Sain.