Gallt-y-pill

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:44, 1 Medi 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gallt-y-pill yn fferm yn ardal Penfforddfelen uwchben y Groeslon, ac wedi bod yn rhan o ystad fechan Llwyn-y-gwalch ym mhlwyf Llandwrog, efallai ers tua 1801 pan fu'r Parch H. W. Jones, of Treiorwerth, Ynys Môn, yn trafod gwerthu'r eiddo (ynghyd â Chae Dw Bach, Llanllyfni) gyda'i dwrnai, O.A. Poole o Gaernarfon.[1]

Erbyn 1840 roedd y fferm, ynghyd â Llwyn-y-gwalch, yn eiddo i fargyfreithiwr o Gaernarfon, Frank Jones Walker Jones; Thomas Parry oedd y tenant, yn ffermio 22 erw oedd yn gymysgedd o dir âr a thir pori. Dyma enwau'r caeau: Cae hyll, Cae bwyn, Werglodd mawn, Werglodd big, Cae garreg, Gyto, Cae newydd, Cae Gyto, Cae talcen tŷ, Cae beudy, Werglodd fawr a Werglodd dopiog.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, X/Poole/6269
  2. Map a Rhaniad Degwm plwyf Llandwrog