Morfa Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:59, 10 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Morfa Dinlle yw enw'r darn o dir a fu gynt yn dywod, glasdraeth a chors rhwng traeth Dinas Dinlle a'r Foryd, o'r môr agored hyd at gyrion fferm Cefnhengwrt a hyd yn oed yn bellach i gyfeiriad pentref Llandwrog. Fe'i hamgaewyd trwy ddeddf seneddol (gan gychwyn ym 1808) ar ôl i'r holl dirfeddiannwr o bwys (namyn un) ym mhlwyfi Llandwrog a Llanwnda gydsynio. Yr un i wrthwynebu oedd y bonwr Bodvel Roberts. Y tirfeddianwyr, wrth gwrs, oedd yn elwa trwy ennill y rhan helaethaf o'r tir a sychwyd gan greu caeau braf eang, er bod peth o'r tir ymylol wedi ei gadw fel porfa i drigolion mwy distadl y plwyfi.

Mae'r llwybrau a ffyrdd unionsyth ar draws y tir yn dyddio o'r amser hwnnw, oherwydd yr oedd angen i'r rhai a gafodd y tir gael mynediad at y tir a ddyrannwyd iddynt. Dylai'r llwybrau hyn i gyd, mae'n debyg, fod hyd heddiw'n llwybrau cyhoeddus os nad yn lonydd gwyrdd, ond bu peth cau ar lawer ohonynt, ac eraill wedi cau gyda thyfiant ers blynyddoedd.

Mae rhan o'r morfa ger pertref Dinas Dinlle bellach yn gadwrfa natur lle gwneir ymdrech arbennig gan yr RSPB i gynyddu nifer y cornchwiglod sy'n nythu yno - ymdrech sydd wedi cael cryn lwyddiant. Mae'r ardal hefyd yn nodedig fel un o'r ychydig leoedd ar yr iseldir lleol lle clywir yr ehedydd yn canu erbyn hyn.

Gwireddwyd sychu'r tiroedd gwlyb yn bennaf trwy godi Morglawdd Dinas Dinlle. Mae llawer mwy o hanes yr amgáu i'w weld ar y dudalen honno.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma