Ebenezer Thomas (Eben Fardd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:57, 11 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgolfeistr a bardd oedd Ebenezer Thomas (Eban Fardd) (Awst 1802 - 17 Chwefror 1863).

Ganed Ebenezer Thomas yn Nhan-lan, ger Llangybi i Thomas Williams a Catherine Prys. Bu’n ysgrifennu barddoniaeth o oed ifanc iawn, ac enillodd yn Eisteddfod Powys 1824 am ei awdl ‘Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniad’. Dechreuodd gadw ysgol yn Llanarmon yn 1825, ac yn 1827 symudodd i Glynno Ffawr i gadw ysgol yn y rhan o’r Eglwys a elwir Capel Beuno. Priododd yn 1830 gyda Mary Williams, Caerpwsan, Clynnog a ganwyd iddynt dair merch ac un mab. Byddai'n cystadlu’n aml o tua 1840 ymlaen, ac yn ymddiddori mewn ysgrifennu llenyddiaeth. Symudodd yr Ysgol yng Nghlynnog i’w dŷ, a daeth i ddealltwriaeth gyda’r Methodistiaid Calfinaidd y byddai’n cael ei noddi i ddysgu plant yn rhad, a hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth. Enillodd Eisteddfod 1858 yn Llangollen am ei awdl am frwydr maes Bosworth.


Llyfryddiaeth

...