Canolfan Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:59, 30 Gorffennaf 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Agorwyd Canolfan Trefor ym 1983 gan gymryd lle'r hen neuadd bentref sinc a choed ("Y Rhyt" fel y'i gelwid yn lleol) a oedd wedi gwasanaethu fel neuadd er 1921, er mai fel adeilad dros dro y bwriadwyd hi bryd hynny. (Gweler yr erthygl ar Neuadd a Chae Chwarae Trefor yn Cof y Cwmwd.) Adeiladwyd y ganolfan newydd mewn cornel o'r cae chwarae lle'r arferai llain fowlio fod gynt a chynhaliwyd nifer o weithgareddau i ddathlu ei hagor ym 1983, gan gynnwys cyngerdd gyda Seindorf Trefor a nifer o ddoniau lleol yn cymryd rhan ynddo. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol gan y diweddar Maldwyn Williams, Glanfa, Trefor a oedd, ynghyd â'i wraig, Margaret, wedi chwarae rhan flaenllaw mewn sicrhau canolfan newydd i'r pentref. Sicrhawyd adeilad newydd a solet yn lle'r hen neuadd a oedd wedi dirywio'n enbyd yn ystod blynyddoedd olaf ei hanes. Fel yr hen "Hyt" mae amrywiaeth helaeth o weithgareddau wedi cael eu cynnal yn y ganolfan dros y blynyddoedd ac mae'n gartref i Ysgol Feithrin y pentref a nifer o gymdeithasau'n cyfarfod yno. Mae ynddi hefyd ystafell snwcer gyda'r byrddau wedi cael eu symud yno o'r hen neuadd. Erbyn hyn mae'r ganolfan hithau yn tynnu at ddeugain oed a gwnaed nifer o welliannau iddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cael cegin newydd a hwylus.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol