Capel Saron (B), Llanaelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:52, 29 Mehefin 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Un o hen achos y Bedyddwyr yn Sir Gaernarfon oedd yn gyfrifol am godi Capel Saron ym mhentref Llanaelhaearn. Mae'r adeilad, sydd wedi ei addasu'n llwyr yn dŷ annedd, yn sefyll ar ochr y lôn gefn o Lanaelhaearn i gyfeiriad Trefor. Adeiladwyd y capel yn wreiddiol ym 1814.[1] Cyn hynny, roedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli yn nhŷ Hendre Fawr nid nepell i ffwrdd.[2]

Ym 1847, roedd 20 o ddisgyblion dan 15; 34 dros 15 yn mynychu'r ysgol Sul.[3]

Ddechrau'r mganrif, y Parch. J. Phillips oedd y gweinidog a roddwyd tysteb iddo ym 1913 i gydnabod ei lafur.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein, [1], adalwyd 29.6.2021
  2. Gweler yr erthygl ar Pen Hendra
  3. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), tt.274-282
  4. Seren Cymru, 21.3.1913, t.12