Bwlch Dros-bern

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:31, 7 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bwlch Dros-bern yw'r enw ar fapiau Ordnans am y bwlch rhwng Mynydd Tal-y-mignedd a Chraig Cwm Silyn. Dyma bwynt isel ar hyd Crib Nantlle ond prin y byddai neb wedi defnyddio'r bwlch yn gyson fel ffordd i deithio o Ddyffryn Nantlle i gyfeiriad Cwm Pennant yn Eifionydd, gan fod y ddwy ochr sy'n arwain at y bwlch yn serth a charegog. Mae'r ffin rhwng y ddau gwmwd yn croesi pen y bwlch.