William John Davies (Glan Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:35, 5 Chwefror 2022 gan 86.151.15.167 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed William John Davies (1848-1891) ar 25 Ionawr 1848 a'i fagu ym Mhen-y-groes. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Y Bala. Bu'n weinidog mewn gwahanol fannau cyn gorffen ei yrfa fer yn weinidog ar eglwys Brynaerau ger Pontlyfni. Bu'n barddoni dan yr enw Glan Llyfnwy, gan gyfansoddi nifer o awdlau - megis rhai ar y testun "Cartref", "Y Llafurwr" ac "Y Frenhines Victoria". Fel llawer o waith barddonol y cyfnod roedd y rhain yn bur faith a thrymllyd a'i wendid pennaf yn ôl Myrddin Fardd oedd ei duedd i ddefnyddio'r un geiriau ac ymadroddion hyd at syrffed yn ei waith, "fel yn sathru sodlau eu gilydd, yr hyn a brofa brinder iaith." [1] Serch hynny, bu i un o'i gyfoedion ei osod ar ben rhestr o ddeunaw o feirdd Dyffryn Nantlle yn ôl eu safon fel beirdd; dichon mai bardd ei gyfnod ydoedd.[2]Beth bynnag oedd ei wendidau fel bardd, roedd yn amlwg ei fod yn uchel ei barch fel gweinidog, a phan fu farw'n 43 oed ar 8 Mehefin 1891, talodd ei gyd-weinidog, Alafon, deyrnged gynnes iddo yn rhifyn Rhagfyr 1891 o'r cylchgrawn Cymru.[3]

Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.35-6.
  2. ’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7
  3. Cymru, Rhagfyr 1891; erthygl goffa gan Alafon.