Madog Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:26, 25 Mehefin 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ôl achyddwyr roedd Madog Goch yn un o ddisgynyddion Cilmyn Droed-ddu, sefydlydd lled-chwedlonol Teulu Glynllifon. Dywed Myrddin Fardd fod Madog Goch yn hyddysg fel cyfreithiwr yn y cyfreithiau Cymreig a'i fod yn nodedig am ei haelioni a'i letygarwch. Ei lys oedd Tyddyn Madog Goch a chartrefodd wedyn yn Plas Hen. Priododd â Gwerfyl ferch Rhys ap Tudur o Fôn, a oedd yn un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, distain neu brif weinidog Llywelyn Fawr.[1]

Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.254.