Howel Gethin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:42, 24 Mehefin 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd genedigol o blwyf Clynnog Fawr oedd Howel Gethin, yn ôl Myrddin Fardd yn ei gyfrol Enwogion Sir Gaernarfon ond tenau eithriadol yw'r wybodaeth amdano.[1] Dywed Myrddin ei fod yn ei flodau fel bardd rhwng 1570 a 1680, sydd yn amlwg yn wallus gan fod hynny'n gyfnod o 110 o flynyddoedd. Dywed Myrddin ymhellach fod rhai o'i gyfansoddiadau i'w cael mewn llawysgrifau a bod un neu ddau o'i gywyddau wedi eu hargraffu. Cyfansoddai farddoniaeth fawl a marwnad i rai o fân uchelwyr yr ardal, megis "Cywydd pedwar Maib Rhys ab Howell ab Madog (Berkin) o Lanystumdwy yn Eifionydd". Barn Myrddin amdano fel bardd oedd ei fod yn loyw a medrus ei grefft yn y mesurau caeth ond ei bod yn debygol fod nifer o wallau wedi llithro i'w waith a gadwyd oherwydd camgymeriadau a wnaed gan gopïwyr diweddarach.

Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.146.