Capel Seion (MC), Gurn Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:35, 19 Rhagfyr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Methodistaidd yn ardal Gurn Goch yw Capel Seion. Bellach mae'r achos wedi dod i ben ers rhai blynyddoedd ac mae'r capel yn dŷ erbyn hyn.

Credir i’r addoldy hwn ei adeiladu o ganlyniad i ddiwygiad 1818 - a adwaenid fel Diwygiad Beddgelert, gan mai yno y dechreuodd gan ymledu drwy'r ardaloedd cyfagos. Cwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1826 a rhoddwyd prydles o 101 mlynedd ar y capel am 6 swllt y flwyddyn.

Cyn addoli yn y capel hwn, roedd Methodistiaid yr ardal yn mynychu ffermdy'r Hen Derfyn gerllaw, gyda’r ysgol Sul yn cael ei chynnal yn nhai gwahanol aelodau o’r gymuned. (Gweler yr erthygl ar Achos Methodistaidd Hen Derfyn yn Cof y Cwmwd.)

Cafodd Eben Fardd ei dderbyn yn aelod ym 1840 neu 1841, a bron yn syth fe'i codwyd yn flaenor. Ym 1845, ar agoriad capel newydd ym mhentref Clynnog fe symudodd dau flaenor at yr achos newydd, sef Ebeneser Thomas (Eben Fardd) a James Williams. Roedd y ddau gapel yn rhan o'r un 'daith'.[1]

Ail-adeiladwyd y capel a chodwyd tŷ capel ar y safle ym 1875, ar gost o £700. Credir i’r ddyled gael ei thalu'n ôl i gyd o fewn 7 mlynedd o agor y capel[2].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, . Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910) tt. 76, 84
  2. W. Hobley, . Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910) tt. 66-73