Cwmni Chwareli Llechi'r Goron yn Sir Gaernarfon
Roedd y Caernarvonshire Crown Slate Quarries Co. Ltd yn gyfrifol am chwareli Chwarel Cors-y-Bryniau, Chwarel Moel Tryfan a Chwarel Cilgwyn o 1918 ymlaen. Rhwng 1918 a 1931, daeth yn rhan o gwmni arall, sef yr Amalgamated Slate Association Ltd., a geisiodd eu gweithredu ar y cyd gyda Chwarel Rhos yng Nghapel Curig.
Daw enw'r cwmni o'r ffaith ei fod yn berchen ar brydlesi i chwarelu ar dir comin, sef tir y Goron, a roddwyd iddynt gan Gomisiynwyr y Goron, yn hytrach na bod y cwmni ei hun yn eiddo i goron Lloegr.
Siomwyd y cwmni gan y diffyg galw am lechi ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac felly yr oedd llawer llai o weithwyr yn gyflogedig gan y cwmni. Daeth y gwaith yn y chwarel olaf i weithredu, sef Chwarel Cors-y-Bryniau, i ben erbyn 1972 am resymau iechyd a diogelwch.[1] Mae'r cwmni'n dal i fodoli ac erbyn hyn mae wedi canfod marchnad newydd mewn gwerthu rwbel fel deunydd sylfaen i adeiladu ffyrdd ac ati.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma